Y prosiect
Mae’r bardd adnabyddus Patrick Jones yn dechrau ar brosiect ar draws Cymru gyfan, yn creu cyfres o erthyglau nodwedd llafar, monologau a chylchoedd cân yn canolbwyntio ar brofiadau bywyd pobl o Ddementia.
Bydd y gwaith yn cynnwys cyfres o weithdai ysgrifennu creadigol wedi’u trefnu gyda grwpiau o ofalwyr a phobl sy’n byw gyda dementia. Mae Patrick yn awyddus hefyd i bobl gyflwyno meddyliau, atgofion ac unrhyw sylwadau – ar unrhyw ffurf.
Byddwn yn rhannu’r diweddaraf am y prosiect, ac yn tynnu sylw at rywfaint o’r gwaith ar hyd y ffordd.
Sut i rannu
#DymaFyNgwirioneddRhannaDyUnDi
Gallwch gyflwyno unrhyw feddyliau, syniadau, myfyrdodau, cerddi neu straeon – boed o brofiad personol neu rywbeth rydych chi wedi dod ar ei draws a gafodd effaith arnoch.
Ni fyddwn yn cynnwys nac yn atgynhyrchu dim byd heb ganiatâd penodol.
Mae’n bwysig nodi y bydd unrhyw beth a gyflwynir yn helpu Patrick i greu ei waith a chaiff ei werthfawrogi’n fawr.
Os ydych chi’n teimlo’n gryf am y prosiect, helpwch ni i rannu’r neges
#DymaFyNgwirioneddRhannaDyUnDi
Sut caiff y gwaith ei ddefnyddio?
Rhagwelir y caiff y gwaith ei gyhoeddi a’i berfformio gyda cherddorion blaenllaw o Gymru; i sefyll fel tystiolaeth fyw, ac amlygu natur dementia ac effaith gadarnhaol celf mewn gofal.
Peth ysbrydoliaeth
