Coleg Meddygol Brenhinol yn cyhoeddi Artist ar gyfer Iechyd Meddwl
My song, my story
prosiect cydweithredol gyda The Forget Me Not Chorus
Elusen wirioneddol ysbrydoledig yw’r Forget-me-not Chorus sy’n defnyddio grym canu i ddod â llawenydd i bobl sydd â dementia a’u teuluoedd.
Fel rhan o fenter “Cer i Greu” Cyngor Celfyddydau Cymru, cynhaliodd y Forget Me Not Chorus gyfres o arddangosfeydd teimladwy o’u gwaith ym mhafiliwn Penarth oedd yn rhoi hwb i’r galon.
Gan weithio gyda Patrick, bu dros 120 o aelodau’r côr yn archwilio eu cân arbennig a’r stori y tu ôl iddi. Gyda delweddau pwerus yn cyd-fynd â barddoniaeth emosiynol, mae arddangosfa My Song, My Story yn dathlu gallu unigryw caneuon i ddyrchafu a chyfoethogi ein bywydau.
Mae cyfrol yn dathlu’r gwaith hwn ar gael drwy Parthian Books.
Before i leave
prosiect cydweithredol gyda National Theatre Wales
Ysbrydolwyd Before I Leave gan waith Patrick gyda chôr Cwm Taf ym Merthyr. Mae aelodau’r côr wedi rhannu llawer o’u hamser a’u profiadau gyda Patrick, gan ei helpu i ysgrifennu drama sy’n dathlu’r cyd-lawenydd adferol a ddaw yn sgil canu mewn côr ac sydd hefyd yn galw am ymdeimlad o gyfrifoldeb cyfunol o’r newydd. Mae’r cynhyrchiad hwn, sy’n llawn dicter ond yn y pen draw yn cynhesu’r galon, yn trafod y galwadau taer presennol am well gofal iechyd meddwl yn ogystal â brwydrau mor bell yn ol â streic y glowyr. Mae’n ymfalchïo yn ei natur wleidyddol, gan gerdded i rythm rhai o’n hoff ganeuon.
★★★★ “Joyous drama about reality of dementia” THE GUARDIAN
Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Cymru
Artist Preswyl
Pan gyhoeddwyd ei gyfnod preswyl, bu Patrick ar BBC Wales Today yn trafod y cysylltiadau rhwng celf ac iechyd meddwl, yn ogystal â dyheadau ar gyfer y bartneriaeth.
Yn gynnar yn ystod y cyfnod preswyl, cyflwynodd Patrick weithdai ysgrifennu creadigol archwiliadol gyda chlinigwyr a hefyd rhoddodd gyflwyniad yng nghyd-gynhadledd gaeaf Coleg Brenhinol y Seiciatryddion a Chymdeithas Seiciatrig Cymru, ‘dyfodol seiciatreg’.